Talu dirwy llys
I dalu eich dirwy llys ar-lein bydd arnoch angen eich rhif adran a rhif y cyfrif sydd ar eich 'gorchymyn' neu 'hysbysiad o ddirwy'.
Bydd arnoch angen manylion eich cerdyn debyd neu gerdyn credyd hefyd.
Ni fydd GLlTEF yn storio rhif y Cerdyn, CVC na'r rhif dod i ben.
Mae'n bwysig darparu cyfeiriad e-bost dilys.
Derbynnir y cardiau canlynol.
Manylion y cyfrif dirwy
Help i ddod o hyd i'ch rhif adran a rhif cyfrif
Mae'r hysbysiad enghreifftiol isod yn dangos ble i ddod o hyd i'r rhif adran a'r rhif cyfrif ar eich hysbysiad o ddirwy.
Cymorth gyda’r gwasanaeth hwn
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r dull hwn i wneud taliad, cysylltwch â'r llys a osododd eich dirwy gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar eich 'hysbysiad o ddirwy'.